Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried na fyddai’r cyfnod o 2 flynedd y cyfeirir ato yn rheoliad 44ZAA(2)(c)(ii) yn cael ei ystyried ond pe dibynnid ar baragraff RA1(1)(c)(i) neu (ii) ac, o dan yr amgylchiadau hynny, byddai angen i’r darllenydd ystyried gofynion paragraff RA1(1)(c)(i) a (ii) yn gyntaf. Ar ôl gwneud hynny, rydym yn ystyried y byddai’r darllenydd yn deall bod y “notice” y cyfeirir ato yn rheoliad 44ZAA(2)(c)(ii) naill ai’n hysbysiad adeiladu, yn hysbysiad cychwynnol neu’n hysbysiad corff cyhoeddus, fel y’u disgrifir yn y diffiniad o “the relevant 2-year period” ym mharagraff RA1(3). Am y rhesymau hyn, nid oes unrhyw ganlyniadau cyfreithiol wedi eu nodi, ac felly rydym yn ystyried nad oes angen diwygiad.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y term “public electronic communications service” yn hunanesboniadol. Rydym hefyd yn ystyried bod y diffiniad o “public electronic communications network” sydd wedi ei fewnosod yn y rheoliadau (gan reoliad 4(3)(e)) yn cyfeirio’r darllenydd at eiriad y diffiniad hwnnw yn adran 151(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae’r diffiniad hwnnw’n cynnwys cyfeiriad at “electronic communications services” a fyddai wedyn yn cyfarwyddo’r darllenydd i edrych ar y diffiniad o “public electronic communications service” yn adran 151(1). Am y rhesymau hyn, nid oes unrhyw ganlyniadau cyfreithiol wedi eu nodi, ac felly rydym yn ystyried nad oes angen diwygiad.